O Arglwydd d(')węd i mi pa lun
O Arglwydd dywed im pa lun

1,2,3,4,5,(6),7;  1,2,4,5.
("Na ofelwch dros dranoeth")
O Arglwydd! dwęd i mi pa lun
Y gallaf gario 'meichiau f'hun;
  Mawr ydynt hwy, a mi sydd wan;
  Pa fodd y c'oda'i'r lleia' i'r lan?

D'ysgwyddau di ddeil feichiau mawr,
Arnynt mae'n hongian nef a llawr;
  Am hyn, fy holl ofidiau i
  Gant bwyso'n gyfan arnat ti.

Pa ham gofala'm henaid mwy?
Na wna; edrycha' i fyny, pwy
  Yw'r hwn sy'n awr yn entrych ne'
  Yn trefnu'r cwbl yn fy lle?

Mae'r holl greadigaeth yn ei law,
Ef sy'n ei threfnu, yma a thraw;
  I ddadgan ei anfeidrol glod
  Mae pob rhyw drefn ag sydd yn bod.

O! nertha f'enaid gwan ei ffydd
'Roi 'i ofal arnat ti bob dydd;
  Heb flino ynghylch amseroedd draw
  Y rhai fe allai byth ni ddaw.

Pam, m'ddyliau gwibiog, fel y gwlith
Y blinwch f'enaid gwirion byth
  'Nghylch mil o bethau is y nen
  Na ellir disgwyl
      'dont i ben?

Taw, f'ysbryd,
    paid a chrwydro'n hwy,
Oddi wrth yr hwn a'th gâr yn fwy
  Na'r holl wrthddrychau gwael i gyd
  Sy am lanw'm meddwl
      yn y byd.
d(')węd i mi :: dywed im
yn ei law :: yn dy law
Ef sy'n ei threfnu :: Ti sy'n ei threfnu
fe allai byth :: o bossib' byth

William Williams 1717-91

Tonau [MH 8888]:
Angelus (Heilige Seelenlust 1657)
Emyn Luther (casgliad Klug 1535)
Hesperus (Henry Baker 1835-1910)
Illsley (John Bishop 1665-1737)
Leipsic (G Neumark / J S Bach)
Melindwr (<1869)
Oswestry (Samuel Stanley 1767-1822)
StMartini (G B Martini 1706-84)
Sebastian (D Vetter / J S Bach)
Yn Hen 100 (Psalmydd Genefa)

gwelir:
  O Nertha f'enaid gwan ei ffydd
  Pererin wyf tua Salem bur

("Do not worry about tomorrow.")
O Lord, tell me in what manner
I can carry my own burdens;
  Great are they, and I am weak;
  How can I lift up the least?

Thy shoulders hold the great burden,
Upon them are hanging heaven and earth;
  Therefore, all my griefs
  May weigh completely on thee.

Why shall my soul care any more?
It will not;  I will look up, who
  Is he who is now in the vault of heaven
  Arranging the whole in my place?

All the creation is in his hand,
He is arranging, here and there;
  To express his infinite praise
  Is every kind of arrangement there is.

O strengthen my weak soul's faith
To put its care upon thee every day!
  Without grieving about distant times
  Those which could never come.

Why, my flitting thoughts, like the dew
Do you ever grieve my innocent soul
  About a thousand things under the sky
  That cannot be expected
      to come to pass?

Be still, my spirit,
    do not wander any longer,
From him who loves thee more
  Than all the base objects altogether
  Which are flooding my thought
      in the world!
::
in his hand :: in thy hand
He is ordaining it :: Thou art ordaining it
which could never :: which possibly never shall

tr. 2016,19 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~